Rathbone Logo

 
 
What we do
Skill Build at Rathbone Cymru / Adeiladu Sgiliau gyda Rathbone Cymru

[]

Welsh flagRathbone and SkillBuild

‘It’s great for young people. It’s more laid back so long as you get things done - you get treated like an adult.’

‘I got tired of people bringing me down. When I came to Rathbone, the staff tried to understand and help me and I love being here.’

‘I had loads of distractions in the class room at school. I moved between two schools and I left with nothing. I did eight weeks of SkillBuild and then I did an NVQ. It really helped me.’

‘Rathbone has made me realise that I don’t have to go back to the past and I can move on.’

‘I would never have got my qualifications had it not been for Rathbone. I was a bit worried about taking on my course but with their help, I got myself a credit level.’

 

We get very positive feedback from young people who’ve join SkillBuild. They’ve told us how much SkillBuild has helped them.

For many young people learning at school was a turn-off and finish school with no idea of what they could do next. Some of the young people that we work with started a college course or job but found it unsuitable.

For many, there’s a lack of qualifications and a real skill gap which Rathbone, through a personalised work plan developed with each young person, helps them overcome. The small, supportive environment in our Rathbone Cymru centres helps young people develop self-confidence and build their self-esteem.

SkillBuild gives young people the practical skills and experience they need to get a job, to move on to further training like an apprenticeship or to go on to college.

What does SkillBuild contain?

  • Practical basic skills to help young people in work and life
  • Different activities like art, outings and sport that help build skills like team work or communication and develop self-confidence and self-esteem
  • Practical work based NVQs 
  • Structured work placements that give an insight into different job roles and real work experience
  • Support with job search, filling in job applications, interview skills and writing a CV
  • References to help young people progress into work or college

Initial advice and guidance is a cornerstone of our work with young people and they tell us this is one of the best things about Rathbone.

How long does SkillBuild last?

‘In 10 years time, I’d like to be working in a place like Rathbone because it really works for young people. I want to do something for young people.’

How long a young person spends on SkillBuild depends on what they need to learn and their particular learning style.

Are young people eligible for financial support? Depending on Careers Wales eligibility, there’s an allowance of £50 a week.

 

Rathbone ac Adeiladu Sgiliau

‘Mae’n wych i bobl ifainc. Mae’n fwy hamddenol, cyn belled â’ch bod yn gwneud eich gwaith – fe gewch eich trin fel oedolyn.’

‘Fe ges i ddigon o bobl yn fy rhoi i lawr. Pan ddes i at Rathbone, fe wnaeth y staff geisio deall a fy helpu, ac rwyf wrth fy modd yma.’

‘Roedd llawer o bethau’n mynd â fy sylw yn ystod gwersi yn yr ysgol. Fe symudais rhwng dwy ysgol a gadael heb ddim. Fe wnes i wyth wythnos ar Adeiladu Sgiliau cyn cwblhau cymhwyster NVQ. Fe wnaeth helpu llawer arnaf.’

‘Mae Rathbone wedi gwneud imi sylweddoli nad oes raid imi fynd yn ôl i’r gorffennol ac y galla’ i symud ymlaen.’

‘Fyddwn i fyth wedi ennill fy nghymwysterau oni bai am Rathbone. Roeddwn braidd yn bryderus ynghylch dilyn y cwrs ond gyda’u cymorth, fe dderbyniais lefel credyd.’

‘Mewn 10 mlynedd fe hoffwn fod yn gweithio mewn lle fel Rathbone, oherwydd eu bod wir yn gweithio dros bobl ifainc. Rydw i eisiau gwneud rhywbeth dros bobl ifainc eraill.’

Fe fyddwn ni’n derbyn adborth cadarnhaol iawn gan bobl ifainc sydd wedi ymuno ag Adeiladu Sgiliau. Maent wedi dweud wrthym gymaint o gymorth fu Adeiladu Sgiliau iddynt.

I lawer o bobl ifainc roedd dysgu yn yr ysgol yn ddiflas a daethant allan o’r ysgol heb unrhyw syniad ynghylch beth allant ei wneud nesaf. Fe wnaeth rhai o’r bobl ifainc y byddwn yn gweithio â nhw ddechrau ar gwrs coleg neu mewn swydd, ond penderfynu nad oedd yn addas iddyn nhw.

Mae gan lawer ddiffyg cymwysterau a bwlch sgiliau gwirioneddol y bydd Rathbone, trwy ddatblygu cynllun gwaith personol â’r person ifanc, yn eu helpu i’w goresgyn. Bydd yr amgylchedd bychan, cefnogol yng nghanolfannau Rathbone Cymru yn helpu pobl ifainc i ddatblygu hunanhyder a chynyddu eu hunan-barch.

Bydd Adeiladu Sgiliau yn rhoi’r profiad a’r sgiliau ymarferol i bobl ifainc y byddant eu hangen i gael swydd, i symud ymlaen i hyfforddiant pellach fel prentisiaeth neu i symud ymlaen i’r coleg.

Beth mae Adeiladu Sgiliau yn ei gynnwys?

  • Sgiliau sylfaenol ymarferol i helpu pobl ifainc mewn bywyd a gwaith
  • Gwahanol weithgareddau fel arlunio, gwibdeithiau a chwaraeon sy’n helpu i gynyddu sgiliau fel gwaith tîm neu gyfathrebu a datblygu hunanhyder a hunan-barch
  • Cymwysterau NVQ ymarferol sy’n seiliedig ar waith
  • Lleoliadau gwaith strwythuredig sy’n cynnig cipolwg ar wahanol rolau swydd a phrofiad gwaith go iawn
  • Cymorth gyda chwilio am swydd, llanw ffurflenni cais am swydd, sgiliau cyfweliad ac ysgrifennu CV
  • Tystlythyrau i helpu pobl ifainc i gael gwaith neu le mewn coleg

Mae cyngor ac arweiniad cychwynnol yn gonglfaen i’n gwaith gyda phobl ifainc a byddant yn dweud wrthym mai dyma un o’r pethau gorau am Rathbone.

Am faint fydd Adeiladu Sgiliau yn para?

Bydd y cyfnod y bydd person ifanc yn ei dreulio ar Adeiladu Sgiliau yn dibynnu ar yr hyn sydd angen iddynt ei ddysgu a’u harddull dysgu penodol.

A yw pobl ifainc yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol? Mae lwfans o £50 yr wythnos ar gael, yn ddibynnol os yw Gyrfa Cymru yn nodi eich bod yn gymwys.

In this section
Related pages
 
© 2005 Rathbone - Reg. Charity no: 287120, Scotland: SC039387    OneNet   Terms and Conditions   Sitemap
an Glitterfish / Sterling production