Leisha Jose
NVQ Learner of the Year
Leisha joined Rathbone Cymru after leaving school without qualifications. Leisha often disrupted sessions at the Newport centre with her negative attitude. She was very unsettled and didn’t like taking direction from the staff. Emma Ashmead, Leisha’s Tutor, discovered that Leisha’s behaviour was down to the problems she had been facing at home. Leisha broke down in tears, stating that she had a troubled home life. She had been having constant disagreements with her mother and had to leave the family home, therefore meaning she had been sleeping wherever she could and using drugs.
Life became a downward spiral for Leisha, explaining why she was so unfocused and unruly in sessions. Leisha realised she wanted to change things for the better and with support made things up with her mother and now has her own flat. Her whole attitude and manner has greatly improved and she has even gained permanent employment from the local nursery she carried out her placement with. She is completing her NVQ Level 3 to enable her to become a qualified nursery nurse.
Ymunodd Leisha â Rathbone Cymru yn 2007 wedi iddi adael yr ysgol heb gymwysterau. Yn aml iawn byddai Leisha’n tarfu ar sesiynau yng nghanolfan Casnewydd â’i hagwedd negyddol. Roedd yn berson ansefydlog iawn a ddim yn hoffi derbyn cyfarwyddyd gan y staff. Canfyddodd Emma Ashmead, tiwtor Leisha, bod ymddygiad Leisha’n seiliedig ar y problemau yr oedd wedi eu hwynebu gartref. Torrodd Leisha i lawr a llefain, gan ddweud bod ei bywyd gartref yn anodd. Roedd wedi bod yn cael anghydfodau parhaus â’i mam ac wedi gorfod gadael y cartref teuluol, olygodd ei bod wedi cysgu ble bynnag y gallai yn ogystal â defnyddio cyffuriau. Trodd bywyd Leisha’n lwybr i waered, oedd yn egluro pam ei bod mor afreolus ac â chyn lleied o ffocws yn ystod y sesiynau. Sylweddolodd Leisha ei bod am newid pethau er gwell a, gyda chymorth, aeth ati i adfer ei pherthynas â’i mam a bellach mae ganddi ei fflat ei hun. Mae ei hagwedd a’i chymeriad wedi gwella’n gyffredinol ac mae hyd yn oed wedi sicrhau gwaith llawn amser gyda’r feithrinfa leol ble yr aeth ar leoliad gwaith. Mae wrthi’n cwblhau ei CGC Lefel 3 fydd yn ei galluogi i ddod yn weinyddes feithrin gymwysedig.